Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

22/03/22

Oddi wrth Gill Harris - Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae’r cynnydd diweddar yng nghyfraddau COVID-19 ledled gogledd Cymru yn ein hatgoffa’n amserol iawn nad yw’r feirws wedi diflannu.

Er bod y cyfyngiadau cyfreithiol yn cael eu codi yng Nghymru'r wythnos nesaf, cofiwch y bydd hi’n parhau i fod yn ofynnol i’r rhai sy’n mynychu’n Clinigau Brechu COVID-19 a lleoliadau gofal iechyd eraill, i wisgo gorchudd wyneb. Ni ddylai pobl sy’n dioddef o symptomau COVID-19 fynychu. Yn hytrach dylent gymryd prawf a hunanynysu.

Rydyn ni’n erfyn yn gryf ar bobl i barhau i gadw at ofynion llym hylendid dwylo ac i gofio awyru ystafelloedd er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.

Ail ddos atgyfnerthu i’r rhai mwyaf agored i niwed

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JVCI) wedi cynghori y dylid cynnig dos ychwanegol o’r brechlyn COVID-19 i oedolion sy’n 75 oed ac yn hŷn, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn ac unigolion sy’n 12 oed ac yn hŷn ac sydd â system imiwnedd wannach fel y’i diffinnir yn y Green Book

Ar hyn o bryd, nid yw’r JVCI wedi argymell bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael ail ddos atgyfnerthu.

Ers 14 Mawrth, rydyn ni wedi bod yn cynnig ail ddos atgyfnerthu i breswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn ac i’r rhai sydd yn 75 oed ac yn hŷn ac yn gaeth i’r tŷ.

O 4 Ebrill, byddwn yn cynnig yr ail ddos atgyfnerthu i oedolion 75 oed ac yn hŷn sy’n gallu mynychu ein canolfannau brechu COVID-19.

Bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn llythyr yn eu gwahodd i apwyntiad. Os ydych chi’n gwpl sydd yn 75 mlwydd oed ac yn hŷn, byddwn yn ymdrechu i’ch gwahodd i apwyntiad gyda’ch gilydd. Fodd bynnag, os byddwch chi’n derbyn apwyntiad sydd ar ddyddiad neu amser gwahanol i’ch partner, ac yr hoffech chi ei newid, ffoniwch ein

ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.  Mae’r llinellau ffôn ar agor 8am-6pm, ddydd Llun hyd at ddydd Gwener a 9am-1pm ar ddydd Sadwrn a Sul.

Byddwn yn yr wythnosau nesaf, yn anfon llythyrau apwyntiad i’r rhai sydd yn 12 oed ac yn hŷn ac sydd â system imiwnedd wannach.

Nid oes angen i’r rhai sy’n gymwys i gael yr ail ddos atgyfnerthu gysylltu â’u meddyg teulu na’r bwrdd iechyd. Byddwn ni’n cysylltu’n uniongyrchol gyda chi, pan ddaw eich tro.

Dos gyntaf, ail ddos neu ddos atgyfnerthu

Mae’r drws ar agor bob amser i’r rhai sydd heb gael eu dos gyntaf, yr ail ddos neu’r dos atgyfnerthu. Gofynnir i’r rhai sy’n gymwys i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.  Mae’r llinellau ffon ar agor 8am-6pm, ddydd Llun hyd at ddydd Gwener a 9am-1pm ar ddydd Sadwrn a Sul.

Dos gyntaf i blant 5-11 oed

Rydyn ni’n parhau i ysgrifennu at rieni plant iach 5-11 oed, i’w gwahodd i drefnu apwyntiad brechu ar gyfer eu plentyn. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae’r llinellau ffôn ar agor 8am-6pm ddydd Llun hyd at ddydd Gwener a 9am-1pm ar ddydd Sadwrn a Sul.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant 5-11 oed er mwyn cynyddu’r amddiffyniad rhag tonnau posibl COVID-19 yn y dyfodol.

Rydyn ni’n annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad cytbwys ar sail gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy wrth ystyried a ddylid bwrw ymlaen gyda brechu. Yr wythnos hon, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan a fydd o gymorth

Rydyn ni’n deall y bydd rhai plant ifanc yn teimlo’n bryderus am ddod i leoliad anghyfarwydd i gael eu brechlyn. Bydd ein clinigau plant gryn dipyn yn dawelach na’r clinigau dos atgyfnerthu a gynhaliwyd ddiwedd 2021 a bydd ein staff profiadol yn cymryd amser i gefnogi’r plant ac i’w gwneud i deimlo’n gartrefol cyn iddyn nhw gael eu brechlyn.

Mae’r brechlyn COVID-19 wedi ei gynnig eisoes i bob plentyn 5-11 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, neu sy’n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai sydd heb dderbyn y cynnig hyd yma, i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840 004.