Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Oddi wrth Gill Harris -  Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Brechu plant iach 5-11 oed

Yr wythnos hon, byddwn yn dechrau ysgrifennu at rieni plant iach 5-11 oed, i’w gwahodd i drefnu apwyntiad brechu ar gyfer eu plentyn.

Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae’r llinellau ffôn ar agor 8am-6pm ddydd Llun hyd at ddydd Gwener a 9am-1pm ar ddydd Sadwrn a Sul.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant 5-11 oed er mwyn cynyddu’r amddiffyniad rhag tonnau posibl COVID-19 yn y dyfodol.

Rydyn ni’n annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy wrth ystyried a ddylid bwrw ymlaen gyda brechu. Yr wythnos hon, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan a fydd o gymorth.

Rydyn ni’n deall y bydd rhai plant ifanc yn teimlo’n bryderus am ddod i leoliad anghyfarwydd i gael eu brechlyn. Bydd ein clinigau plant gryn dipyn yn dawelach na’r clinigau dos atgyfnerthu a gynhaliwyd ddiwedd 2021 a bydd ein staff profiadol yn cymryd amser i gefnogi’r plant ac i’w gwneud i deimlo’n gartrefol cyn iddyn nhw gael eu brechlyn.

Mae’r brechlyn COVID-19 wedi ei gynnig eisoes i bob plentyn 5-11 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, neu sy’n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai sydd heb dderbyn y cynnig hyd yma, i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840 004.

Ail ddos atgyfnerthu i’r rhai mwyaf agored i niwed

Mae JVCI wedi cynghori y dylid cynnig dos ychwanegol o’r brechlyn COVID-19 i’r canlynol:

  • oedolion 75 mlwydd oed a throsodd, preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n 12 mlwydd oed a throsodd ac sydd â system imiwnedd wannach fel y’i diffinnir yn y Green Book

Nid yw’r JVCI wedi argymell bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael ail ddos atgyfnerthu ar hyn o bryd.

Cyn bo hir, byddwn yn dechrau cynnig yr ail ddos atgyfnerthu i breswylwyr cartref gofal i oedolion hŷn a’r rhai sydd dros 75 oed sy’n gaeth i’r tŷ. Yn dilyn hynny, bydd llythyrau gwahoddiad yn cael eu hanfon i’r oedolion eraill sy’n 75 oed a throsodd a’r rhai sy’n 12 oed a throsodd ac sydd â system imiwnedd wannach.

Nid oes angen i’r rhai sy’n gymwys i gael yr ail ddos atgyfnerthu gysylltu â’u meddyg teulu na’r bwrdd iechyd. Byddwn ni’n cysylltu’n uniongyrchol gyda chi, pan ddaw eich tro.

Dos cyntaf, ail ddos neu’r dos atgyfnerthu

Mae’r drws bob amser ar agor i’r rhai sydd heb gael eu dos cyntaf, yr ail ddos neu’r dos atgyfnerthu. Gall y rhai sy’n gymwys ddod i unrhyw un o’n clinigau galw heibio. Bydd croeso cynnes gan ein staff cyfeillgar a chyfle i drafod unrhyw bryderon.