Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Oddi wrth Gill Harris - Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Yr wythnos hon, rydym yn ffarwelio â'r rhai olaf o'n cydweithwyr gwerthfawr o'r lluoedd arfog, sydd wedi rhoi cymorth i ni ers cyn y Nadolig.

Mawr yw ein dyled iddynt hwy, ac i bob un o'n staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid rhagorol am ein helpu i gyflwyno rhaglen frechu mor llwyddiannus hyd yma.

Mae staff yn dal i fod ar waith gennym ac mae brechlynnau ar gael i bobl nad ydynt wedi derbyn eu dos cyntaf, ail ddos, trydydd dos neu eu pigiad atgyfnerthu. Gall y rhai sy’n gymwys fynd i un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallant drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004. Byddwch yn gweld y mymryn lleiaf o giwio, felly gallech gael eich brechu o fewn mater o bum munud yn unig.

Os bydd gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y brechlyn, dewch i siarad â ni, fel y gallwn eich helpu i wneud penderfyniad cytbwys p'un ai i fwrw ymlaen ai peidio.

Brechu plant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol neu sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach

Rydym yn parhau i frechu plant rhwng 5 a 11 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol penodol a'r rhai sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach.

Rydym yn annog rhieni'r plant hyn i ddarllen y taflenni gwybodaeth sydd wedi'u llunio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, er mwyn gwneud penderfyniad cytbwys am fuddion brechu eu plentyn. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn cysylltu â rhieni plant sydd â chyflyrau iechyd isorweddol dros y ffôn er mwyn trefnu apwyntiad. Nid oes angen iddynt gysylltu â'r Bwrdd Iechyd. Lle bo'n bosibl, caiff yr apwyntiadau hyn eu trefnu mewn lleoliad cyfarwydd, fel adran cleifion allanol i blant yn un o'n hysbytai.

Os bydd unrhyw un yn tybio bod eu plentyn mewn grŵp risg glinigol ac nad oes neb wedi cysylltu â nhw, gallant adael eu manylion gyda'n Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 er mwyn i ni wirio'r cymhwyster hwnnw.

Mae plant rhwng 5 a 11 oed sy'n byw gydag unigolyn sydd â system imiwnedd wannach am y rhan fwyaf o'r wythnos, h.y. 4 diwrnod ym mhob saith neu fwy, hefyd yn gymwys i gael eu brechu. Gwahoddir eu rhieni neu eu gwarcheidwaid i gwblhau ein ffurflen ar-lein. Byddwn yn dilysu'r manylion hyn ac yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.

Pigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed

Mae'r holl blant a phobl ifanc rhwng 16 a 17 oed bellach yn derbyn dosiau atgyfnerthu o'r brechlyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan JCVI.

Dylid cynnig y dos atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis ar ôl cwblhau'r cwrs cychwynnol.

Gall dosiau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.

Ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed

Mae'r rhai rhwng 12 15 oed yn gymwys i dderbyn ail ddos, dri mis ar ôl derbyn y dos cyntaf. Nid oes angen iddynt aros am wahoddiad i apwyntiad a gallant fynd i un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru, trefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau, neu ffonio 03000 840004.