Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

18/01/2022

Gan Gill Harris – Cyfarwyddwr Gweithredol Darpariaeth Glinigol Integredig

Rydym yn awr wedi rhoi mwy na 1.5 miliwn o frechiadau i bobl sydd yn byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru.

Cyrhaeddwyd y garreg filltir sylweddol hon yr wythnos yma ac mae’n gadarnhad o waith caled ac ymroddiad parhaus ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi sicrhau bod y rhaglen frechu yn un llwyddiannus. Hoffem unwaith eto ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar ran pobl Gogledd Cymru.

Rydym yn awr wedi rhoi’r ddos atgyfnerthu i fwy na 80 y cant o’r rhai hynny sy’n gymwys. Mae hyn oll wedi bod yn allweddol yn ein hymateb i’r pandemig hyd yma i amddiffyn ein cymunedau a gwasanaethau’r GIG rhag COVID-19.

Brechu plant 5 i 11 mlwydd oed mewn grwpiau risg clinigol neu sydd yn gyswllt aelwyd rhywun sydd yn imiwnoataliedig

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell cynnig dau ddos o’r brechiad COVID-19 i blant 5 i 11 mlwydd oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol penodol a’r rhai hynny sydd yn gyswllt aelwyd i rywun sydd yn imiwnoataliedig.

Yn y lle cyntaf byddwn yn cysylltu â’r plant hynny sydd â chyflyrau Iechyd isorweddol, tua 2,000 ar draws Gogledd Cymru, dros y ffôn o’r wythnos hon ymlaen i drefnu apwyntiad. Yr ydym yn disgwyl cynnig apwyntiadau o 23 Ionawr.

Lle bo’n bosibl, caiff yr apwyntiadau hyn eu trefnu mewn lleoliad cyfarwydd, megis adran cleifion allanol plant mewn un o’n hysbytai.

Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw blant yn y cohort 5 i 11 mlwydd oed sydd yn byw gydag unigolyn imiwnoataliedig am y rhan fwyaf o’r wythnos, h.y. 4 diwrnod neu fwy allan o 7, gan y byddant hwythau hefyd angen cael cynnig y frechiad. Gellir gwneud hyn pan fydd yr apwyntiad yn cael ei drefnu, neu drwy lenwi ein ffurflen arlein. Byddwn yn dilysu’r ffurflen ac yn cysylltu i drefnu apwyntiad.

Os oes unrhyw un yn meddwl bod eu plenty nhw mewn grŵp risg clinigol a neb wedi cysylltu â nhw gallant adael eu manylion gyda’n Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 er mwyn gwirio a ydynt yn gymwys.

Cais i ferched beichiog

Rydym unwaith eto yn apelio i ferched beichiog i ddod ymlaen am eu brechiad COVID-19. Ar gyfer unrhyw fam feichiog, mae cael y dos gyntaf, ail a’r ddos atgyfnerthu yn un o’r pethau pwysicaf y gallant wneud i’w amddiffyn eu hunain a’r babi rhag coronafeirws ac, yn benodol yn erbyn yr amrywiolyn omicron.

Yn seiliedig ar y data ynglŷn â diogelwch, ynghyd â’r risg cynyddol o COVID-19 mae’r JCVI wedi cynghori y dylai marched beichiog gael eu hystyried fel grŵp risg clinigol.

Rydym yn annog pob darpar fam i fynychu un o’n clinigau galw-heibio ar draws Gogledd Cymru neu i drefnu apwyntiad arlein.

Trydydd dos ar gyfer y rhai sy’n imiwnoataliedig

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi yn barod y dylai unigolion sydd yn imiwnoataliedig dderbyn trydydd prif ddos o frechiad.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda chlinigwyr i adnabod unigolion perthnasol a phenderfynu a oes angen rhoi trydydd dos neu ddos atgyfnerthu ar bwynt penodol o fewn eu triniaeth, neu a oes angen oedi meddyginiaeth er mwyn sicrhau bod ganddynt yr ymateb imiwnedd positif fwyaf posibl i’r brechiad.

Nid oes raid cael amser penodol i’r rhan fwyaf o’r rhai hynny a nodwyd a byddant yn derbyn llythyr apwyntiad ar gyfer y trydydd prif ddos.

Os ydynt eisoes wedi cael dos atgyfnerthu, bydd hyn yn cael ei newid ar eu cofnod i drydydd prif ddos a chant eu gwahodd am ddos atgyfnerthu o leiaf chwe mis wedyn.

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n clinigwyr i wahodd y rhai hynny sydd angen brechiad ar adeg benodol yn sgil eu triniaeth a/neu drefn meddyginiaeth.

Ewch am eich brechiad heddiw – peidiwch ag oedi rhagor

Os ydych yn newid eich meddwl mae croeso i chi bob amser i ddod ymlaen a chael brechiad. Mae’r staff yno a’r brechiadau ar gael i bobl nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf, ail trydydd neu’r ddos atgyfnerghu. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn amddiffyn eich hun, eich teuluoedd a gwasanaethau’r GIF rhag COVID-19 ac felly rydym yn eich annog i drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn gymwys am eich dos cyntaf, ail neu ddos atgyfnerthu, gallwch fynd i un o’n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru. Gallwch hefyd drefnu apwytniad arlein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.