Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Oddi wrth Gill Harris - Cyfarwyddwr Gweithredol Darpariaeth Glinigol Integredig

Hyd yma, rydym wedi rhoi pigiad atgyfnerthu i 78 y cant o oedolion cymwys, sy'n golygu ein bod ychydig ar y blaen o gymharu â'r cyfartaledd yng Nghymru.

Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae dal i fod rhyw 100,000 o bobl sy'n gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu nad ydynt wedi dod atom eto. Rwy'n annog y bobl hyn i gofio nad yw dau ddos o frechlyn COVID-19 yn cynnig amddiffyniad cryf yn erbyn haint symptomatig oherwydd amrywiolyn Omicron. Bydd pigiad atgyfnerthu yn eich helpu i fagu gwrthgyrff - gan gynnig hyd at 70 y cant o amddiffyniad. 

Byddwn yn anfon neges destun at bawb sy'n gymwys i dderbyn dos cyntaf, ail ddos neu bigiad atgyfnerthu er mwyn eu hannog i fynd i unrhyw rai o'n clinigau galw heibio cyn gynted â phosibl. Bydd y rhai sy'n dod atom dros y diwrnodau sydd i ddod yn gweld y mymryn lleiaf o giwio - felly gallent gael eu brechu mewn mater o bum munud yn unig.

Gwyddom nad yw llawer o bobl yn gallu derbyn eu brechlyn gan fod ganddynt COVID-19 ar hyn o bryd neu gan eu bod wedi cael canlyniad prawf positif o fewn y 28 diwrnod diwethaf. Rydym yn annog y bobl hyn i fynd i'n clinigau galw heibio cyn gynted ag y bydd eu cyfnod o 28 diwrnod yn dilyn canlyniad prawf positif wedi dod i ben.

Lleihau'r cyfnod rhwng derbyn ail ddos i'r rhai rhwng 12 a 17 oed

Rydym wedi lleihau'r cyfnod gofynnol i dderbyn ail ddos ar gyfer y rhai rhwng 12 a 17 oed o 12 i 8 wythnos, yng ngoleuni'r nifer fawr o achosion Omicron yn ein cymunedau. Mae hyn yn gyson â chyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a chytunwyd ar hyn ar lefel genedlaethol.

Os ydych rhwng 12 a 17 oed a bod wyth wythnos wedi heibio ers i chi gael eich dos cyntaf o'r brechlyn rhag COVID, peidiwch ag aros am wahoddiad i apwyntiad ar gyfer eich ail ddos. Ewch i'n tudalen we i gael manylion am glinigau galw heibio sy'n cynnig brechiadau i'r grŵp oedran hwn a dewch atom cyn gynted ag y byddwch yn gymwys i wneud hynny.

Brechu plant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol neu sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach

Ar 22  Rhagfyr 2021, gwnaeth JCVI argymell cynnig dau ddos o'r brechlyn rhag COVID-19 i blant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol a'r rhai sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach.

Rydym yn disgwyl dechrau cynnig brechiadau i'r grŵp bach o blant yma o 22 Ionawr, unwaith y bydd rhagor o wybodaeth wedi dod i law am y dos sydd ei angen.