Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Oddi wrth Dr Nick Lyons – Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

Hyd yma, rydym wedi rhoi mwy na 374,000 o bigiadau atgyfnerthu, gan gynnig amddiffyniad pwysig ychwanegol i 76 y cant o'r boblogaeth gymwys. Mae'n hollbwysig bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu brechu dros y diwrnodau sydd i ddod cyn y cynnydd disgwyliedig yn nifer yr achosion Omicron tua diwedd y mis hwn.

Yn gyffredin â gweddill y wlad, mae'r sawl sydd wedi manteisio ar bigiadau atgyfnerthu yng Ngogledd Cymru yn is o lawer nag y byddem yn hoffi ei weld o blith y rhai sydd o dan 40 oed. Rwy'n annog y rhai sydd yn y grŵp oedran hwn i ddod atom yn ddi-oed.

Mae'n hollbwysig i chi gael eich brechu er mwyn:

  • Amddiffyn chi'ch hun a'ch anwyliaid
  • Amddiffyn y gymuned yr ydych yn byw ynddi ac yn lleihau'r risg o gyfyngiadau pellach mewn ymateb i COVID

Cofiwch, nid yw dau ddos o’r brechlyn rhag COVID-19 yn cynnig amddiffyniad cryf rhag haint symptomatig oherwydd amrywiolyn Omicron. Bydd pigiad atgyfnerthu yn eich helpu i fagu gwrthgyrff - gan gynnig hyd at 70 y cant o amddiffyniad.

Peidiwch â chymryd y newyddion bod Omicron yn fath ysgafnach o'r firws yn ganiataol. Bydd derbyn eich pigiad atgyfnerthu'n lleihau eich risg o ledaenu'r firws i'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach, y gallai dal COVID-19 arwain at ganlyniadau difrifol iawn.

Dewch atom i dderbyn eich pigiad heddiw - peidiwch ag oedi ymhellach

Roedd gennym staff yn eu lle i roi pigiad atgyfnerthu i'r holl oedolion cymwys cyn diwedd y flwyddyn, ond roedd y niferoedd a ddaeth atom yn is nag y byddem wedi hoffi eu gweld yn ystod wythnos olaf mis Rhagfyr. Gwyddom nad oedd llawer o bobl yn gallu derbyn eu brechlyn gan fod ganddynt COVID-19 ar hyn o bryd neu gan eu bod wedi cael canlyniad prawf positif o fewn y 28 diwrnod diwethaf.

Efallai y byddai eraill wedi oedi cyn dod atom oherwydd pryderon ynghylch sgil-effeithiau dros gyfnod y Nadolig. Cofiwch, mae sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â'r brechlyn rhag COVID-19 yn ysgafn iawn fel arfer ac nid pawb sy'n eu cael.

Os ydych yn gymwys i dderbyn eich dos cyntaf, eich ail ddos neu'ch pigiad atgyfnerthu, peidiwch ag oedi ymhellach. Mae gennym staff sy'n barod i'ch brechu chi mewn clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau.

Rydych yn debygol o weld y mymryn lleiaf o giwio - felly efallai y gallech gael eich brechu o fewn mater o bum munud yn unig.

Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i apwyntiad am bigiad brechu trwy neges destun neu lythyr a'ch bod am gael eich brechu'n gynt, cyn belled â bod 91 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers derbyn eich ail ddos ac nad ydych wedi dal COVID-19 o fewn 28 diwrnod, gallwch dderbyn eich pigiad trwy fynd i unrhyw un o'n clinigau galw heibio.