Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Oddi wrth Ffion Johnstone - Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin

Rydym bellach wedi rhoi pigiad atgyfnerthu i 120,516 o bobl. Mae hyn yn cynrychioli 33.7 y cant o'r rhai a fydd yn gymwys dros gyfnod y rhaglen.

Mae pigiadau atgyfnerthu'n cael eu rhoi ar gyfradd o ryw 3,000 y dydd ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wahodd 90 y cant o'r rhai sy'n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr.

Caiff apwyntiadau ar gyfer y pigiad atgyfnerthu eu hanfon trwy'r post yn nhrefn gronolegol o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad rhoi'r ail ddos, nid o'r rhai hynaf i'r rhai ieuengaf, o reidrwydd.

Yn syml, chwe mis yw'r lleiafswm cyfnod cymwys rhwng yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu. Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio ers eich ail ddos, nid ydych 'ar ei hôl hi' ac nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa gan y byddwn yn eich gwahodd chi fel mater o drefn cyn gynted ag y daw eich tro chi.

Mae ein timau'n gweithio o fore gwyn tan nos i gynnig brechiadau i bobl cyn gyflymed â phosibl ac yn y ffordd fwyaf diogel bosibl ac rydym am ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni fynd i'r afael â'r dasg hynod heriol hon.

Cofiwch fod atebion i Gwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gwefan yma.

Brechlyn Moderna

O'r wythnos nesaf ymlaen, byddwn yn dechrau defnyddio brechlyn Moderna.

Yn debyg i Pfizer, brechlyn mRNA yw Moderna, ac mae wedi cael ei roi'n ddiogel i filiynau o bobl ledled y DU ac ym mhedwar ban byd.

Mae Moderna wedi'i gymeradwyo gan reoleiddiwr y DU, sef Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fel brechlyn diogel a hynod effeithiol i bobl sy'n 12 oed ac yn hŷn.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) hefyd wedi argymell ei ddefnyddio, gan nodi'n benodol bod brechlynnau mRNA yn arwain at effaith atgyfnerthu fawr, ni waeth pa frechlyn a roddwyd ar gyfer dos cyntaf neu ail ddos.

Ar hyn o bryd, dim ond yn ein Canolfannau Brechu rhag COVID-19 y caiff Moderna ei gynnig.

Gan fod i frechlyn Moderna ofynion tebyg o ran cludo, storio a pharatoi i frechlyn Pfizer, ni fydd yn bosibl i lawer o feddygfeydd ei roi.

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Clinigau galw heibio i'r rhai rhwng 12 a 15 oed

Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i'r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar ein gwefan yma.

Dosiau cyntaf ac ail ddosiau

Nid yw'n rhy hwyr manteisio ar ddos cyntaf o frechlyn COVID-19. Mae hefyd yn hollbwysig bod y rhai sydd wedi derbyn eu dos cyntaf yn derbyn eu hail ddos, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn cael eu hamddiffyn gymaint â phosibl.

Dim ond trwy ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 y gellir trefnu dosiau cyntaf ac ail ddosiau ar rif ffôn 03000 840004. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8am tan 7pm ac o ddydd Sadwrn hyd at ddydd Sul, rhwng 9am a 2pm. Gall y llinellau fod yn brysur iawn, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

Trydydd dosiau ar gyfer y rhai sydd â system imiwnedd wannach

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi'n flaenorol y dylai unigolion sydd â system imiwnedd wannach dderbyn trydydd dos cychwynnol o'r brechiad. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chlinigwyr i ganfod unigolion perthnasol ac i benderfynu pa un a oes angen i drydydd dos neu ddos atgyfnerthu gael ei roi ar adeg benodol o fewn eu cylchoedd triniaeth, neu p'un a oes angen peri oedi i feddyginiaeth er mwyn sicrhau'r ymateb imiwnyddol mwyaf positif i'r brechlyn.

Nid oes ar y rhan fwyaf o'r rhai a ganfyddir angen adeg benodol a byddant yn derbyn llythyr apwyntiad ar gyfer eu trydydd dos cychwynnol.

Os ydynt eisoes wedi derbyn pigiad atgyfnerthu, caiff hyn ei newid ar eu cofnod i drydydd dos cychwynnol a chânt eu gwahodd ar gyfer pigiad atgyfnerthu o leiaf chwe mis yn ddiweddarach.

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n clinigwyr i wahodd y rhai y mae arnynt angen adeg benodol yn seiliedig ar eu hamserlen triniaeth a/neu feddyginiaeth.

Recriwtio

Rydym yn awyddus i recriwtio staff newydd yn barhaus ac rydym wedi cael ymateb positif iawn i'n hymgyrch recriwtio ddiweddaraf, gyda channoedd o bobl yn mynegi diddordeb mewn ymuno â'n timau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan, gan gynnwys manylion am sut i ymuno â'n digwyddiadau recriwtio ar-lein diweddaraf.

Lleoliadau brechu

Byddem wrth ein boddau pe baem yn gallu cynnig Canolfan Frechu rhag COVID-19 ym mhob tref a phentref yng Ngogledd Cymru er mwyn lleihau'r pellter y mae'n rhaid i bobl ei deithio er mwyn derbyn eu pigiad atgyfnerthu.

Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn am y rhesymau canlynol:

  • Mae ein gweithlu rhoi pigiadau wedi'i leihau o ryw 50 y cant o gymharu â'r broses gyflwyno ar y dechrau. Mae hyn yn bennaf gan fod llai o feddygfeydd yn gallu cymryd rhan oherwydd y galw digynsail am ofal cychwynnol, a gofynion delio â brechlyn Pfizer
  • Mae'r gofyniad gan JCVI i symud oddi wrth frechlyn AstraZeneca i rai Pfizer a Moderna wedi cynyddu hyd apwyntiadau o 400 y cant i 20 munud a mwy, oherwydd yr angen am gyfnod arsylwi o 15 munud ar ôl i'r dos gael ei roi
  • Mae'n rhaid defnyddio brechlynnau Pfizer a Moderna bron yn syth ac mae ganddynt ofynion cludo, storio a pharatoi penodol iawn, sy'n ychwanegu at gymhlethdodau cynnig y brechlynnau hyn ar draws safleoedd lluosog

Gan ein bod yn gweithio gyda llai o staff, amseroedd apwyntiad hirach a gofynion penodol iawn o ran delio â brechlynnau, mae'n hollbwysig i ni ddefnyddio hynny o adnoddau sydd gennym yn effeithiol, er mwyn brechu'r rhai mewn grwpiau blaenoriaeth cyn gynted â phosibl.

Rydym yn parhau i weithio'n galed iawn i recriwtio staff ychwanegol yn ogystal â defnyddio ein gweithlu presennol i gynnig brechlynnau o gynifer o leoliadau gwahanol â phosibl. Rydym hefyd yn ymchwilio ar hyn o bryd i ddefnyddio unedau symudol a fydd yn ein helpu i gynnal clinigau gwib.

Rydym yn cydnabod nad yw'r sefyllfa hon yn berffaith a byddem wir yn ddiolchgar pe bai pobl cystal â bod yn amyneddgar ac yn rhesymol.

Mae pob un o'n safleoedd Brechu rhag COVID-19 wedi'u lleoli ar lwybrau cludiant cyhoeddus ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried sut gallwn wella darpariaeth cludiant cymunedol ar gyfer rhai grwpiau cymwys.

I gael yr amserlenni diweddaraf ar gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru neu ffoniwch eu Canolfan Gyswllt ddwyieithog yn rhadffôn ar  0800 464 0000, o 7am – 8pm bob dydd.