Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Gan Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth:

Mae ein timau'n gweithio fel lladd nadroedd i roi pigiadau atgyfnerthu i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf cyn gynted â phosibl.

Rydym ni'n gweinyddu tua 3,000 o frechlynnau bob dydd, ac rydym ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig y pigiad atgyfnerthu i 90 y cant o'r rhai sy'n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr - nod sy'n cael ei rannu ar draws Byrddau Iechyd yng Nghymru. 

Ym mriff yr wythnos hon, rydym wedi cynnwys atebion i gwestiynau cyffredin a dderbyniwyd dros yr wythnos ddiwethaf.

Gallwch chi ganfod atebion i Gwestiynau Cyffredin eraill ar ei gwefan yma.

 

Pryd y byddaf yn cael fy ngwahodd i gael fy mhigiad atgyfnerthu COVID-19?

Cofiwch, chwe mis yw'r cyfwng lleiaf rhwng eich ail ddos a'ch pigiad atgyfnerthu.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweinyddu pigiadau atgyfnerthu i staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol a phobl sydd dros 80 oed. Rydym ni wedi cychwyn anfon llythyrau apwyntiadau at bobl sydd dros 70 oed.

Os oes chwe mis wedi mynd heibio ers ail ddos, rydym yn gwahodd pobl sy'n gymwys i gael eu pigiad atgyfnerthu yn yr un drefn flaenoriaeth â'r cam cyntaf.

Rydym ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig y pigiad i 90 y cant o'r rhai sy'n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr.

Arhoswch am wahoddiad am apwyntiad trwy'r post a pheidiwch â chysylltu â'ch meddygfa neu ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19, gan na fyddant yn gallu trefnu un i chi ynghynt.

Ar ôl i chi dderbyn apwyntiad, gwnewch bob ymdrech i gadw ato.

Pam mae'n rhaid i mi deithio ymhellach i gael fy mhigiad atgyfnerthu?

Yn ystod cam cyntaf y rhaglen frechu, roedd bron pob meddygfa yn brechu gan ddefnyddio brechlyn AstraZeneca. Sicrhaodd hyn y gallai nifer sylweddol o bobl dderbyn eu dos cyntaf a'r ail ddos mewn meddygfa leol.

Mae brechlyn Pfizer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen pigiadau atgyfnerthu, ac mae gan y brechlyn hwn gyfnod defnydd byr a gofynion cludo, storio a pharatoi penodol iawn. Mae hyn wedi'i gwneud hi'n anodd i lawer o Feddygfeydd Teulu gyfranogi yn y rhaglen pigiadau atgyfnerthu.

Mae Meddygfeydd Teulu hefyd yn ymateb i alw digynsail am ofal ac yn hynod o brysur a'r gwaith pwysig o weinyddu brechlynnau ffliw .

Rydyn ni bellach yn rhoi brechlynnau o lai o safleoedd, felly efallai y gofynnir i rai pobl deithio ymhellach i gael eu brechlyn atgyfnerthu nag a wnaethant i dderbyn eu pigiad cyntaf neu eu hail bigiad.

Mae pob un o'n safleoedd brechu COVID-19 ger llwybrau cludiant cyhoeddus. Gwahoddir y rhai sydd â phryderon ynghylch sut y gallant deithio i'w hapwyntiad i gysylltu â ni.

 

Anawsterau cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19

Mae ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 yn parhau i dderbyn nifer fawr o alwadau. Yr amser aros ar gyfartaledd i alwad gael ei hateb y mis hwn yw 6 munud a 44 eiliad, sy'n hirach nag y byddem yn ei ddymuno. Rydym yn ceisio recriwtio staff ychwanegol trwy'r adeg.

Helpwch ni i'ch helpu chi trwy wneud pob ymdrech i gadw at eich apwyntiad pigiad atgyfnerthu a dim ond ein ffonio i aildrefnu os na allwch osgoi gwneud hynny.

 

Apwyntiadau dos cyntaf i'r sawl sy'n 12-15 oed

Rydym yn dal i anfon gwahoddiadau am apwyntiad at y grŵp hwn, felly os nad yw'ch plentyn wedi derbyn llythyr eto, peidiwch â phoeni eu bod wedi'u methu. Nid oes angen i chi ein ffonio ni i geisio trefnu apwyntiad.

Yr wythnos hon rydym yn cynnal y clinigau galw heibio hanner tymor canlynol i unrhyw un rhwng 12 a 17 a 9 mis oed dderbyn eu dos cyntaf yn unig, os nad oes ganddynt apwyntiad eisoes wedi'i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf:

Wrecsam

Canolfan Catrin Finch - Dydd Sul 31 Hydref rhwng 09:00 a 17:00

Queensferry

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Dydd Sul 31  Hydref rhwng 09:00 a 19:00

Llanelwy

Canolfan Optic - Dydd Sadwrn 30 a Dydd Sul 31 Hydref rhwng 08:30 a 19:30

Llandudno

Tŷ Sector  - Dydd Sadwrn 30 a Dydd Sul 31  rhwng 08:30 a 19:30

Llangefni

Canolfan Hamdden Plas Arthur - Dydd Mawrth 28 Hydref rhwng 10am a 5.20pm

Bangor

Ffordd Ffriddoedd - Dydd Mawrth 28 Hydref rhwng 9am a 6:30pm.

Cadwch at eich apwyntiad presennol os oes gennych un wedi ei drefnu dros yr wythnosau nesaf.

Sylwer y bydd angen i riant neu warchodwr y rhai 12-15 mlwydd oed fynychu'r apwyntiad gyda nhw wrth iddynt dderbyn eu brechiad.

 

Mae cael pigiad atgyfnerthu a'r ffliw yn darparu'r amddiffyniad gorau

Derbyniwch y cynnig o bigiadau atgyfnerthu a'r ffliw cyn gynted ag y cânt eu cynnig. Nid oes angen gadael bwlch rhwng pob pigiad. Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI)  wedi cynghori ei bod yn ddiogel i frechlynnau atgyfnerthu a'r ffliw gael eu rhoi ar yr un pryd neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny - nid oes angen cyfnod rhwng y ddau frechlyn

Ni fydd y mwyafrif o bobl yn cael cynnig brechlynnau ffliw ac atgyfnerthu COVID-19 ar yr un pryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhoddir eich brechlyn atgyfnerthu mewn Canolfan Frechu COVID-19, tra bydd eich brechlyn ffliw yn fwy tebygol o gael ei roi yn eich meddygfa. Bydd y mwyafrif o bobl yn derbyn llythyrau apwyntiad ar wahân ar gyfer y ddau bigiad.

Dos cyntaf a'r ail ddos

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod cyfradd derbyn yr ysbyty ar gyfer oedolion iau, heb eu brechu â COVID-19 yng Nghymru fwy na phedair gwaith yn uwch nag ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu brechu’n llawn. Nid yw'n rhy hwyr i gael dos cyntaf o'r brechlyn COVID-19. Mae hefyd yn hollbwysig bod y rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf yn derbyn eu hail ddos, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn derbyn yr amddiffyniad gorau posibl.

Dim ond drwy rif ffôn ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 y gellir trefnu dos cyntaf neu ail ddos: 03000 840004. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 7pm a dydd Sadwrn i ddydd Sul, rhwng 9am a 2pm

I helpu i reoli'r galw, nid ydym yn cynnig clinigau galw heibio bellach, ac nid oes modd trefnu'r dos cyntaf na'r ail ddos ar-lein.

Helpwch ni i gadw Gogledd Cymru yn ddiogel y gaeaf hwn.

Mae cyfraddau COVID-19 yn dal i fod ar lefelau pryderus o uchel ac mae'r GIG yng Nghymru ar drothwy ei gyfnod mwyaf heriol o'r pandemig. Helpwch ni i gadw Gogledd Cymru yn ddiogel ac amddiffyn y GIG y gaeaf hwn drwy: