Yr wythnos hon rydym wedi dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc 12-15 oed iach tra’n parhau â’n hymdrechion i gael y pigiadau atgyfnerthu i freichiau pobl sydd fwyaf bregus i salwch difrifol o COVID-19.
Wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, rydym am atgoffa pobl nad ydy hi’n rhy hwyr i ddod ymlaen i gael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19. Hefyd mae’n hynod o bwysig fod y rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf yn derbyn eu hail ddos, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn derbyn yr amddiffyniad gorau.
Am fanylion ynghylch pwy sy’n gymwys i gael eu dos cyntaf, ail ddos a dos atgyfnerthu, a sut y gallent dderbyn eu pigiadau gweler ein diweddariad ar frechiadau COVID-19o’r wythnos diwethaf.
Yn ystod cyfnod cychwynnol y brechlyn COVID-19, roedden ni’n ddiolchgar iawn am arbenigedd ein partneriaid gofal cychwynnol, gan fod eu cefnogaeth hwy wedi sicrhau fod nifer o bobl wedi gallu cael eu dos cyntaf ac ail ddos yn eu meddygfa leol.
Mae gwasanaethau gofal cychwynnol ar hyn o bryd yn wynebu galw digynsail, yn ogystal â’r her o roi pigiadau ffliw i bobl ar draws y rhanbarth. Am y rheswm hwn, ni fydd y rhan fwyaf o feddygfeydd MT yn cymryd rhan yn y rhaglen atgyfnerthu. O ganlyniad, efallai bydd y rhai sy’n gymwys yn gorfod teithio ychydig ymhellach i dderbyn eu pigiad atgyfnerthu.
Er ein bod yn defnyddio nifer llai o leoliadau brechu, rydym mewn sefyllfa dda i gyflwyno’r brechlyn atgyfnerthu ar gyflymder i’r rhai sy’n gymwys.
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa MT i ymholi am eich pigiad atgyfnerthu, oni bai eich bod yn derbyn gwahoddiad i wneud hynny. Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â chi trwy lythyr a neges destun pan ddaw eich tro chi.
Mae ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 yn profi nifer uchel o alwadau ar hyn o bryd gan bobl yn holi am eu brechiad atgyfnerthu, neu yn dymuno ail drefnu apwyntiad.
Helpwch ni i gael y brechlyn i freichiau pobl mor sydyn â phosib trwy aros am wahoddiad am apwyntiad drwy’r post. Os na fyddwch wedi derbyn apwyntiad, ni fydd ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 yn gallu trefnu un ar eich cyfer.
Unwaith y byddwch yn derbyn apwyntiad, gwnewch bob ymdrech i’w gadw.
Mae’r JCVI yn argymell y dylai’r unigolion sydd fwyaf bregus i haint difrifol gael cynnig dos o’r brechlyn atgyfnerthu COVID-19, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.
Noder nad yw hyn yn golygu y dylai pobl ddisgwyl cael apwyntiad pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y bydd chwe mis wedi pasio ers eu hail ddos.
Yn unol ag arweiniad JCVI, byddwn yn gwahodd y rhai sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn seiliedig ar yr un drefn flaenoriaeth â’r cam cyntaf, cyn belled â bod o leiaf chwe mis wedi pasio ers yr ail ddos.
Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n gymwys i fod yn amyneddgar a chofio nad oes angen iddynt gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Bydd rhywun yn cysylltu â chi’n uniongyrchol pan ddaw eich tro chi.