Dos atgyfnerthu brechlyn COVID-19
Yr wythnos diwethaf, roedd ein brechwyr ymysg y cyntaf yn y DU i ddechrau rhoi’r brechlyn atgyfnerthu COVID-19. Mewn gwirionedd, rhoddwyd y pigiad cyntaf i un o’n Nyrsys Orthopedig yn ein canolfan frechu yn Llanelwy. Mae'r nyrs hon wedi bod yn gweithio ar reng flaen yr ymgyrch brechu rhag COVID-19 ers mis Ionawr 2021, a chafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan yn dilyn ei phrofiad ei hun o'r firws.
Fel y dywedwyd yn flaenorol, bydd brechiadau atgyfnerthu yn rhan allweddol o leihau achosion COVID-19 ymhellach ac yn uchafu’r amddiffyniad i’r rhai sydd fwyaf bregus o gael haint difrifol, yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf.
Mae’r JCVI yn argymell y dylai’r unigolion canlynol gael cynnig trydydd dos o’r brechlyn atgyfnerthu COVID-19, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos:
Rydym wedi dechrau gwahodd pobl am eu brechiadau atgyfnerthu a byddwn yn gofyn i’r rhai sy’n gymwys i fod yn amyneddgar a chofio nad oes angen iddynt gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Bydd rhywun yn cysylltu â chi’n uniongyrchol pan ddaw eich tro chi.
Gwybodaeth brechiadau i bobl ifanc 12-15 oed
Yn dilyn argymhelliad y pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig un dos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer.
Mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i’r grŵp oedran hwn ar y sail y bydd yn helpu i ostwng cyfraddau trosglwyddo ac felly gostwng amhariadau pellach i addysg a’r rhyddid sydd wedi’i adfer yn ddiweddar, yn ogystal â chynnig budd iechyd ymylol.
Byddwn yn cychwyn brechu pobl ifanc iach 12-15 oed o ddydd Llun, 4 Hydref.
Yn yr wythnosau sydd i ddod, bydd rhieni neu warcheidwaid pobl ifanc 12 i 15 oed sy’n iach yn derbyn llythyr yn y post yn gwahodd eu plentyn i apwyntiad.
Ni fydd yn bosibl trefnu apwyntiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar lein.
Nid oes angen i chi gysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’ch meddygfa Meddyg Teulu, gan y byddwn ni’n cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwahoddiad i apwyntiad ar gyfer eich plentyn.
Bydd angen i riant neu warcheidwad roi cydsyniad ar ran y person ifanc a dod gyda nhw pan fyddant yn derbyn eu brechiad.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu brechu’r grŵp oedran hwn mewn clinigau o fewn ysgolion, ond fe wnawn ni barhau i adolygu hyn.
Mae gwybodaeth briodol yn cael ei chasglu ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi pobl ifanc a’u rhieni i wneud dewis gwybodus ynghylch y brechiad. Bydd mwy o fanylion yn cael ei rannu’n fuan.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at rieni/gwarcheidwaid plant 12-15 oed i amlinellu pryd a lle y gall eu plentyn gael eu brechu.
Gweler ein cwestiynau cyffredin ynghylch brechiadau i bobl ifanc 12-15 oed am fwy o wybodaeth.
Digwyddiad recriwtio rhithwir
Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiadau recriwtio rhithwir, rydym yn bwriadu cynnal un arall am 10am ddydd Llun, 27 Medi.
Unwaith eto byddwn yn chwilio i recriwtio mwy o staff i gefnogi’r rhaglen frechu a byddwn yn ddiolchgar petaech yn ein helpu i rannu manylion am y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall pobl gofrestru yma