Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

07/09/21

Gan Gill Harris – Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae bron i 90 y cant o’r boblogaeth cymwys yng ngogledd Cymru wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19, tra mae 82 y cant wedi cael eu hail ddos.

Rydym wedi gweld niferoedd da o bobl ifanc 16-17 oed yn cymryd y brechiad gyda bron i 10,000 o frechiadau COVID-19 wedi’u rhoi. 

I alluogi mwy o bobl ifanc i gael eu brechu ar draws ein daearyddiaeth eang, byddwn yn anfon unedau brechu symudol i dargedu’r rhai 16-17 oed, gan ein bod yn ymwybodol y gall y grŵp oedran hwn ei chael hi’n anodd teithio i ganolfannau brechu, gan eu bod yn fwy dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus a lifft gan aelodau’r teulu.  

I gefnogi hyn, byddwn yn gweithio gyda’n Hawdurdodau Lleol a cholegau ar draws y rhanbarth dros yr wythnosau sydd i ddod.

Hoffem atgoffa pawb sy’n gymwys i gael y brechlyn COVID-19 ei fod yn sydyn a hawdd trefnu eich dos cyntaf neu ail ddos gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar lein neu trwy fynychu un o’n sesiynau galw heibio lle nad oes angen apwyntiad.

 

Brechlyn atgyfnerthu COVID-19

Rydym yn parhau i aros am y cyngor terfynol gan y Cyd-bwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) ar sgôp y rhaglen atgyfnerthu COVID-19.  

Rydym hefyd yn gofyn i’r rhai sy’n debygol o fod yn gymwys yn seiliedig ar gyngor dros dro y JCVI i fod yn amyneddgar a chofio nad oes angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad.  Cysylltir â chi’n uniongyrchol pan ddaw eich tro chi.  

Oherwydd y ffordd y mae brechiadau COVID-19 a’r Ffliw yn cael eu cyflwyno a’r dyddiadau cychwyn disgwyliedig ar gyfer yr ymgyrchoedd, ni fydd yn arfer safonol i roi’r pigiadau hyn ar yr un pryd.

  

Ysbryd gwrth-frechlyn yn caledu?

Yn y diweddariad ar frechiadau COVID-19 yr wythnos diwethaf, rhoddwyd trosolwg o ymdrechion y staff i sicrhau fod pawb wedi cael y cyfle i gael eu brechu.  Fe wnaethom nodi ymdrechion staff ein Canolfannau Cyswllt Brechiadau COVID-19 a geisiodd gysylltu â dros 1,500 o bobl dros benwythnos Gwyliau’r Banc, gan arwain at 111 o apwyntiadau ar gyfer y brechiad.

Adroddwyd hyn gan rai o’r cyfryngau lleol fel tystiolaeth fod yr ‘ysbryd gwrth-frechlyn yn caledu’ ar draws y rhanbarth.  Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth o gwbl i ddangos hyn.  

Ni wnaeth 60 y cant o’r 1,500 galwad ffôn gan ein staff gael eu hateb, tra roedd dros hanner y rhai y llwyddom i siarad â nhw wedi cael eu brechiad yn barod, wedi trefnu apwyntiad, neu yn bwriadu trefnu ar-lein.

Trefnwyd apwyntiad ar gyfer 20 y cant o’r rhai y siaradwyd â nhw, tra dywedodd saith y cant nad oeddent yn dymuno cael eu brechu.

 

Llwyddiant Recriwtio

Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad recriwtio fis diwethaf, rydym yn edrych ymlaen at groesawu oddeutu 50 o staff ychwanegol at ein timau brechu yn yr wythnosau sydd i ddod.

Mewn rhai achosion, bydd ein recriwtiaid newydd yn cymryd lle’r staff brechu cyfredol, sydd yn dychwelyd i’w prif rolau ar draws y bwrdd iechyd.

Mae’n bosibl y bydd digwyddiadau recriwtio pellach yn cael eu cynnal yn yr wythnosau sydd i ddod.  Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.