Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Gan Ffion Johnstone - Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin

Rydym yn hyderus y gallwn sicrhau bod pigiadau atgyfnerthu ar gael i bob oedolyn cymwys yng Ngogledd Cymru erbyn 31 Rhagfyr, ond mae angen eich help arnom i gyflawni hyn.

Dilynwch y cyngor isod, a fydd yn helpu i osgoi ciwiau hir yn ein safleoedd brechu COVID-19.

Sut i gael eich pigiad cyntaf, eich ail bigiad neu'r pigiad atgyfnerthu rhwng nawr a 31 Rhagfyr

Ydych chi wedi trefnu apwyntiad rhwng nawr a 31 Rhagfyr yn barod?  Nid oes angen i chi newid hyn.

Ar hyn o bryd mae 60,000 o apwyntiadau wedi'u trefnu ar gyfer trigolion Gogledd Cymru yn ystod mis Rhagfyr. Rydym yn gorfod dod o hyd i 230,000 o apwyntiadau ychwanegol ar gyfer y rhai sy'n gymwys ond nad oes ganddynt apwyntiad y mis hwn eto.

Felly mae'n hanfodol, os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu ym mis Rhagfyr eich bod yn cadw ato. Peidiwch â chysylltu â ni i aildrefnu gan fod hyn yn arafu ein hymdrechion i amddiffyn eraill. Byddwch yn aros tan fis Ionawr am ddewis arall.

Cleifion sy'n gaeth i'r tŷ

Os ydych chi'n gaeth i'r tŷ nid oes angen cysylltu â ni. Mae gennym eich manylion eisoes ac rydym yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i gyrraedd atoch cyn diwedd mis Rhagfyr.

Trefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer y rhai nad oes ganddynt apwyntiad eto yn ystod mis Rhagfyr

Os nad ydych eto wedi cael gwahoddiad i apwyntiad ym mis Rhagfyr, cyn bo hir byddwch yn gallu trefnu un ar-lein gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein.

Mae apwyntiadau yn cael eu rhyddhau mewn sypiau, er mwyn sicrhau bod ein seilwaith TG yn gallu rheoli'r galw.

Os ydych wedi derbyn apwyntiad o 1 Ionawr ymlaen, cysylltir â chi trwy neges destun gyda chyfarwyddiadau ar sut i symud eich apwyntiad ymlaen gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein.

Dros y dyddiau nesaf byddwn yn sicrhau bod 230,000 o apwyntiadau ar gael ar-lein mewn ystod o glinigau sy'n cael eu cynnal ar draws Gogledd Cymru hyd at 31 Rhagfyr.

Mae trefnu ar-lein yn helpu i sicrhau y byddwch chi'n derbyn eich pigiad ac yn lleihau'r amser y mae'n rhaid i chi giwio. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod gennym y lefelau cywir o staff a brechlyn ar gael ym mhob clinig.

Sylwer os byddwch chi'n dod i glinig nad yw'n un galw-heibio dynodedig ac nad ydych chi wedi archebu apwyntiad ar-lein, byddwch chi'n wynebu ciw hir. Dim ond os ydym yn rhedeg yn gynt na'r disgwyl a bod gennym ddigon o gyflenwad o'r brechlyn a staff y byddwn yn gallu cynnig pigiad i chi.

Bydd y rhai sy'n trefnu ymlaen llaw gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein bob amser yn cael eu blaenoriaethu mewn ciwiau.

Gwnewch bob ymdrech i drefnu cyn Rhagfyr 31 gan y bydd ein gallu i roi pigiadau COVID-19 yn cael ei leihau'n sylweddol yn gynnar ym mis Ionawr.

Clinigau Galw-Heibio

Bydd nifer llai o glinigau galw-heibio a chlinigau dros dro symudol dynodedig yn cael eu cynnal rhwng nawr a 31 Rhagfyr. Bydd rhai o'r rhain yn cael cyhoeddusrwydd ar-lein ac yn y cyfryngau lleol. Fodd bynnag, gan y bydd eraill yn targedu ardaloedd gyda nifer uchel o ymwelwyr (e.e. archfarchnadoedd neu ganolfannau siopa), lle mae'n debygol y bydd cyflenwad brechlyn yn cael ei ddefnyddio'n gyflym iawn,  nid ydym o reidrwydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r rhain ymlaen llaw.

Yn dibynnu ar y nifer sy'n manteisio ar apwyntiadau gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein, efallai y byddwn yn agor sesiynau galw-heibio ychwanegol mewn safleoedd penodol. Efallai y bydd manylion y rhain ar gael ar fyr rybudd ar-lein.

Gwahoddiadau gan feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn uniongyrchol gan eu meddygfa neu fferyllfa gymunedol - ond rydym ni'n annog pobl i beidio â ffonio i holi am apwyntiadau ar hyn o bryd.

Cadwch y llinellau ffôn yn glir i gleifion sydd angen cael mynediad at y  gwasanaethau.

Gellir trefnu apwyntiadau mewn rhai clinigau brechu sy'n cael eu cynnal gan feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein.

Helpwch ni i’ch helpu chi

Dyma un o'r heriau mwyaf y mae'r GIG erioed wedi'i hwynebu ac mae angen eich cefnogaeth arnom i sicrhau y gallwn amddiffyn cymaint o bobl cyn gynted â phosibl.

Helpwch ni i’ch helpu chi: 

  • Cadwch eich apwyntiad - os oes gennych un rhwng nawr a 31 Rhagfyr.
  • Trefnwch apwyntiad ymlaen llaw gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein (os nad oes gennych un eisoes wedi'i drefnu ym mis Rhagfyr).
  • Cyrhaeddwch ar amser eich apwyntiad (ddim yn gynnar) i leihau'r angen am giwio
  • Gwisgwch ar gyfer tywydd gaeafol a byddwch yn barod i giwio
  • Gwisgwch fasg a chynnal pellter cymdeithasol

Ni fyddwn yn goddef trais, ymddygiad ymosodol na chamdriniaeth tuag at ein staff neu wirfoddolwyr

Rydym yn gofyn i'n staff fynd y filltir ychwanegol i'ch cadw chi'n ddiogel y Nadolig hwn. Mae llawer wedi aberthu amser gyda'u teuluoedd o'u gwirfodd i weithio ar reng flaen ein hymdrech brechu.

 

Ni fyddwn yn goddef trais, ymddygiad ymosodol na chamdriniaeth tuag at ein staff.

 

Efallai y gofynnir i unrhyw un sy'n achosi braw neu ofid i eraill yn unrhyw un o'n canolfannau brechu adael. Mewn amgylchiadau mwy difrifol cysylltir â'r heddlu

 

Trefnu apwyntiad ar-lein Pigiad COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)