Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Frechu

Sesiynau galw heibio i blant rhwng 5 a 11 oed ar gael erbyn hyn

Mae gennym sesiynau galw heibio penodol i blant rhwng 5 a 11 oed dderbyn eu brechiad cyntaf rhag COVID-19.  Mae gwybodaeth am ein clinigau galw heibio i blant rhwng 5 a 11 oed ar gael yma. 

Deallwn y gallai rhai plant bach fod yn ofidus am ddod i leoliad anghyfarwydd er mwyn derbyn eu brechlyn. Bydd ein clinigau i blant yn dawelach o lawer na chlinigau'r pigiad atgyfnerthu a gynhaliwyd yn ystod rhan olaf 2021, a gall ein staff profiadol roi o'u hamser i gefnogi plant ac i'w gwneud yn gyfforddus, cyn iddynt dderbyn eu brechlyn.

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth yn ymwneud â pha un ai i dderbyn y brechlyn, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i ategu hyn.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylai plant rhwng 5 a 11 oed gael cynnig y brechlyn er mwyn gwella amddiffyniad yn erbyn tonnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Mae'r brechlyn COVID-19 eisoes wedi cael ei gynnig i'r holl blant rhwng 5 a 11 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, neu sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai nad ydynt wedi derbyn y cynnig hwn i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004.

31 Awst 2022 yw'r dyddiad dod i ben ar gyfer dos cyntaf i blant rhwng 5 a 11 oed, felly os ydych yn awyddus i'ch plentyn gael ei frechu, dylech wneud hynny cyn y dyddiad hwnnw.

Mae dal amser i dderbyn eich dos cyntaf, ail ddos neu'ch pigiad atgyfnerthu cyntaf

Nid yw'n rhy hwyr i dderbyn eich dos cyntaf, ail ddos neu'ch dos atgyfnerthu. Gall y sawl sy'n gymwys i dderbyn eu dos cyntaf, ail ddos a phigiad atgyfnerthu cyntaf  fynd i'n clinigau galw heibio brechu rhag COVID-19 heb apwyntiad. Mae gwybodaeth am ein clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru ar gael isod. 

Os byddai'n well gennych drefnu apwyntiad, ffoniwch ganolfan gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.