Mae gennym nifer o glinigau brechu rhag COVID-19 ar agor ar draws Gogledd Cymru lle gall pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed alw heibio heb apwyntiad er mwyn derbyn dos cyntaf. Gwahoddir y bobl ifanc hynny rhwng 12 a 15 oed sydd wedi trefnu apwyntiad ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod i fynychu unrhyw rai o’r clinigau galw heibio hyn, os ydynt yn awyddus i dderbyn eu brechlyn yn gynt.
Darganfod mwy o wybodaeth am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd agor ein glinigau galw heibio COVID-19 ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed.
Nid oes angen cysylltu â ni i drefnu ail ddos gan y byddwn yn gwahodd y sawl sy'n gymwys fel mater o drefn trwy lythyr ar yr adeg briodol.
Gellir trafod mwyafrif helaeth yr ymholiadau clinigol yn ein canolfannau brechu fel rhan o'ch apwyntiad. Gall ein staff clinigol profiadol dreulio amser yn trafod unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych cyn i chi wneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â brechu ai peidio.
Os oes gennych ymholiad clinigol na all aros tan ddiwrnod eich apwyntiad, cysylltwch â'n Cynghorwyr Clinigol Brechiadau COVID-19 yn BCU.CovidVaccineClinicalAdvisor@wales.nhs.uk
Sylwer y dylid defnyddio'r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer ymholiadau clinigol yn unig. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gymhwysedd, sut y cysylltir â chi, a beth ddylech chi ei wneud os yw'ch gwybodaeth frechu yn anghywir mewn man arall ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin.
Bydd pob plentyn 12-15 oed yng Nghymru yn cael cynnig dau ddos o'r brechlyn.
Nid oes angen cysylltu â ni i drefnu ail ddos gan y byddwn yn gwahodd y sawl sy'n gymwys fel mater o drefn trwy lythyr ar yr adeg briodol.