Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Iaith a Lleferydd

 

Mae'r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn darparu asesiad, triniaeth, cefnogaeth a gofal ar gyfer pobl o bob oed sydd ag anawsterau gyda chyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu (dysffagia).

Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd (SLT) yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys hyfforddwr technegol SLT (TI) - gweithwyr cymorth wedi eu hyfforddi'n arbennig i ddarparu cymorth SLT dynodedig ar draws ystod o leoliadau. Mae'r tîm SLT yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a theuluoedd, a gweithwyr proffesiynol eraill, megis athrawon, nyrsys, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol a meddygon i ddarparu dull gyda'r unigolyn yn ganolbwynt iddo.

Ar gyfer pwy mae therapi iaith a lleferydd?

Mae therapi iaith a lleferydd o fudd i bobl o bob oed, er enghraifft:

Babanod: Mae SLT yn cefnogi babanod cynamserol gyda chyflyrau fel parlys yr ymennydd, taflod hollt a Syndrom Down sy'n cael anawsterau gydag yfed, llyncu a sgiliau chwarae a chyfathrebu yn gynnar iawn mewn bywyd.

Plant: Mae'r SLT yn cefnogi plant sydd ag anawsterau iaith, lleferydd, cyfathrebu a bwyta ac yfed. Mae'r rhain weithiau'n bodoli ochr yn ochr â chyflyrau eraill megis anawsterau dysgu a phroblemau gyda'r clyw.

Oedolion ag anawsterau dysgu: Mae'r SLT yn cefnogi oedolion sydd â chyflyrau datblygiadol megis anableddau dysgu, awtistiaeth a Syndrom Down, sydd ag anawsterau cyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu

Oedolion: Mae SLT yn cefnogi oedolion ag anawsterau cyfathrebu a/neu lyncu sy'n deillio o gyflyrau fel strôc, canser y pen a'r gwddf, clefyd Parkinson's, clefyd motor niwron a dementia.