Mae pandemig Covid-19 yn golygu ein bod yn gweithio mewn amseroedd eithriadol, ac rydym yn chwilio am bobl eithriadol i helpu ein ymateb.
Mae angen nyrsys priofiadol a medrus i ymuno â ni a chynnig eu cymorth mewn amrywiaeth o swyddi ar draws iechyd a gofal. Mae eich arbenigedd yn werthfawr. Byddwn yn eich croesawu'n ôl os ydych yn gallu cynnig helpu mewn capasiti clinigol neu mewn rôl gynorthwyol.
Mae cyfleoedd mewn ystod o wasanaethau a lleoliadau gan gynnwys ysbytai, y gymuned, ac yn yr Ysbytai Enfys yng Nglannau Dyfrdwy, Llandudno a Bangor.
Byddwch yn cael eich dewis yn ddibynnol ar eich sgiliau, eich arbenigedd a'ch profiad diweddar yn ogystal â'ch dewisiadau unigol. Caiff hyfforddiant, addysg a chymorth parhaus eu darparu.
Mae gan y rheiny sy'n dychwelyd i weithio'r un mynediad â staff parhaol y GIG at gymorth am ddim a ddyluniwyd i helpu holl staff y GIG i gymryd camau i gynnal eu hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a'u lles cyffredinol.
Ewch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb. Yma gallwch ffiltro’r rolau yn ôl grŵp staff a lleoliad.
Ewch i: https://www.covidhubwales.co.uk/
Ymholiadau cyffredinol: 03000 851 241