Neidio i'r prif gynnwy

Sue Hill

Mae Sue Hill yn gyfrifydd siartredig a dechreuodd ei gyrfa yn y sector preifat yn Spillers Foods Limited. Mae’n Gydymaith i Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, mae ganddi gymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Cyfrifon Cyhoeddus a Chyfrifeg ac mae’n un o raddedigion rhaglen Arweinyddiaeth Nye Bevan y GIG. 

Cyn ymuno â BIPBC, roedd Sue yn Gyfarwyddwr Cyllid Bridgwater Community Healthcare Foundation Trust a gweithiodd cyn hynny yn St Helens and Knowsley Teaching Hospitals Trust am bedair blynedd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid. Mae ganddi brofiad helaeth yn y sector preifat o ystod eang o gwmnïau yn cynnwys Marconi, United Biscuits a Barclays Bank. 

Mae Sue wedi byw yn Wrecsam ers 16 mlynedd ac mae’n edrych ymlaen at yr her o weithio yn ei heconomi iechyd leol yn BIPBC.