Neidio i'r prif gynnwy

Gareth Evans

Daw Gareth Evans o Ynys Môn yn wreiddiol a graddiodd fel Podiatrydd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ym 1989.

Gareth yw Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Therapïau a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Treuliodd ei yrfa yn y GIG dros gyfnod o 30 mlynedd hyd yma mewn nifer o rolau clinigol, rheolaethol ac arweinyddiaeth ar draws Gogledd Cymru a'r Canolbarth yn cynnwys y proffesiynau perthynol i iechyd, meddygaeth arbenigol a gwasanaethau cymunedol. Cafodd Gareth ei benodi yn ei swydd barhaol fel Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Therapi ym mis Awst 2017 gyda chyfrifoldeb dros wella cyfraniad y proffesiynau therapi at ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yng Ngogledd Cymru cyn achub ar y cyfle i gyflawni rôl y Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro ym mis Mawrth 2022. Yn ystod ei yrfa, mae wedi astudio gan ennill MBA a MProf ac mae'n awyddus i annog mwy o staff clinigol i gymryd rhan mewn ymchwil. Mae Gareth yn briod gyda dau o blant ac mae'n byw yn Sir Ddinbych erbyn hyn. Mae wrth ei fodd ar gefn beic ac yn frwd iawn dros rygbi.