Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Deddf Iechyd Meddwl

Diben Pwyllgor Deddf Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy sicrhau bod holl ofynion Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu diwallu gan y Bwrdd Iechyd.

Mae gan Bwyllgor Deddf Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd gylch gwaith cyfyng iawn. Diben y Pwyllgor yw ystyried a monitro defnydd o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (MHA), Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (sy'n cynnwys Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) (MCA) a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (y Mesur) a rhoi sicrwydd i'r Bwrdd.

Mae materion llywodraethu, arwain, ansawdd a diogelwch yn ymwneud ag iechyd meddwl yn perthyn i gylch gwaith y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad. Mae'r Pwyllgor hwn wedi parhau i gyfarfod trwy gydol cyfnod y pandemig.

Mae cyfarfodydd holl Bwyllgorau'r Bwrdd Iechyd bellach yn cael eu cynnal yn rhithiol. Mae cyfarfod arfaethedig Pwyllgor y Ddeddf Iechyd Meddwl yr oedd disgwyl ei gynnal ar 18 Medi wedi'i ohirio. Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd nifer o newidiadau i arweinyddiaeth ac er mwyn galluogi Arweinydd Gweithredol newydd Iechyd Meddwl, Teresa Owen i fod yn bresennol. Caiff y cyfarfod hwn ei gynnal ym mis Hydref. Er nad yw Pwyllgor y Deddf Iechyd Meddwl wedi cyfarfod yn ystod pandemig COVID-19, mae adroddiadau allweddol ar berfformiad wedi'u cylchredeg ymysg aelodau.

Mae manylion rôl lawn y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl gan gynnwys yr Is-bwyllgor Pŵer Rhyddhau (diweddarwyd Medi 2017).

Mae'r Cynllun Gwaith Blynyddol yn nodi arferion gwaith y Pwyllgor gan gynnwys y gofyniad am Gylch Busnes (CoB) sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd.

Mae'r Pwyllgor yn creu adroddiad blynyddol o'i weithgareddau ar gyfer y Bwrdd 2020-21

Cadeirydd y Pwyllgor: Mrs Lucy Reid 
Is-gadeirydd: swydd wag
Aelodau Annibynnol y Pwyllgor: Cynghorydd Cheryl Carlisle a Mr Eifion Jones
Prif Swyddog Gweithredol: Dr David Fearnley, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

Ysgrifenyddiaeth: Jody Evans ac mae modd cysylltu â hi drwy: jody.evans@wales.nhs.uk / 01745 448 788 est 6362

Ar gyfer cofnodion a phapurau blaenorol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgrifenyddol perthnasol a enwir uchod

2021
25.6.21
12.3.21
2020
11.12.20
19.10.20
18.9.20
10.6.20 - CYFARFOD WEDI'I GANSLO

27.3.20 - CYFARFOD WEDI'I GANSLO

 2019
20.12.19
27.9.19
28.6.19
29.3.19
3.1.19