Neidio i'r prif gynnwy

Ailfeddwl Am Yfed

Ymunwch bobl ar hyd a lled gogledd Cymru sy'n yfed llai o alcohol ac yn teimlo'n well
Mae yfed llai yn gallu cael effaith gadarnhaol enfawr ar sut rydych chi'n edrych ac yn teimlo a hynny'n aml mewn ychydig ddyddiau yn unig.

Gall ein helpu i deimlo’n hapusach, yn iachach ac yn fwy egnïol, ein helpu i gysgu’n well, a lleihau ein siawns o gael salwch difrifol fel canser, clefyd ar yr iau a chlefyd y galon.

Mae rhoi'r gorau i yfed neu gostwng y swm rydym yn ei yfed hefyd yn gostwng ein risg o fod mewn damwain, neu fod yn ddioddefwr neu ynghlwm wrth drais.

Cymerwch y prawf i weld sut mae eich yfed yn cymharu â’r canllawiau yfed diogel diweddaraf. 
 

Wyt ti'n yfed gormod?

 

Rhesymau dros atal neu leihau eich yfed

Mae yna lawer o resymau dros atal neu leihau faint rydych yn eich yfed - gan gynnwys rhai na fyddech efallai'n eu disgwyl. Gallai gwneud hyd yn oed newid bach fod o fudd mawr i'ch ffordd o fyw, iechyd a lles. 

 

Cael mwy o gefnogaeth i'ch helpu i stopio neu leihau eich yfed

Mae llawer o ffyrdd syml y gallwch leihau faint rydych yn ei yfed, a gwasanaethau a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch. 

 

Rhannwch eich stori

Os ydych wedi dechrau yfed llai, cliciwch isod i rannu eich stori am y buddion a chefnogi ymgyrch Ailfeddwl am Yfed. Gallech helpu i ysbrydoli eraill i fwynhau perthynas iachach ag alcohol.